Drysau Agored - Capel Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Coleg Sant Padarn
Capel unigryw Sant Mihangel a’r Holl Angylion yng nghwadrangl Coleg Sant Padarn, Ffordd Caerdydd, Llandaf. Dyluniwyd y man addoli hyfryd hwn gan George Pace, y pensaer oedd hefyd yn gyfrifol am adfer Cadeirlan Llandaf ar ôl y rhyfel. Mae croglen wych gan Stammers yno. Trefnir yr ymweliad trwy garedigrwydd Prifathro Coleg Sant Padarn.
Cyfle prif i ymweld â’r Capel.
Yng nghwadrangl Coleg Sant Padarn, Ffordd Caerdydd, Llandaf CF5 2YJ
Mewn car – parciwch ym Maes Parcio’r Stryd Fawr, cerddwch yn ôl i Ffordd Caerdydd, trowch i’r chwith.
Ar fws – disgynnwch wrth dafarn y Black Lion, cerddwch tuag at gyffordd Rhodfa’r Gorllewin, mae ar y dde.
Ar drên – gorsaf Danescourt yw’r agosaf.
Ar feic – mae Nextbikes ar y Stryd Fawr.