Skip to main content

Mae’r capeli rhestredig Gradd II, sy’n dyddio’n ôl i 1859, wedi cael eu hadfer a’u hadnewyddu’n sylweddol. Maen nhw’n adlewyrchu gwahanol ddulliau dylunio’r mudiadau Esgobyddol ac Anghydffurfiol yn ystod y cyfnod Fictoraidd.

Dyma gyfle prin i weld y tu mewn i’r Capeli Fictoraidd ar ôl iddyn nhw gael eu hadfer a’u hadnewyddu.

Bydd cyfle i ymuno â thaith gerdded dywys o gwmpas y fynwent am 11.30am.

Dim angen archebu.

Cyfeiriad – Y Capeli, Mynwent Cathays, Ffordd Fairoak, Cathays, Caerdydd, CF24 4PY.

Mae mynedfa i’r fynwent ar Ffordd Fairoak. Bydd parcio ar gael ar y diwrnod y tu mewn i gatiau’r fynwent oddi ar Heol Derwen Deg, wrth ymyl y capeli.

Gwasanaethau bws o ganol y ddinas: dewch oddi ar y bws ger Llyfrgell Cathays.

Ni chaniateir cŵn (ac eithrio cŵn cymorth) yn y Capeli.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sul 08 Medi 2024
11:00 - 15:00