Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae tystiolaeth yn awgrymu fod yr eglwys yn eglwys Geltaidd, wedi ei hadeilad ar safle Llan a gall fod wedi bod yn fynachlog. Hon yw’r eglwys leiaf ond un yn yr esgobaeth, wedi ei chofnodi gyntaf yn 1253. Mae nodweddion diddorol yn cynnwys yr hen ddrws mynediad gyda’r glicied, colfachau a chnociwr drws gwreiddiol. Tu fewn i’r eglwys mae cofebau diddorol a ffenestr ddwyreiniol Gothig Seisnig (1290-1350), pren to gwreiddiol o’r 16eg ganrif, darluniau ar wal cynnar arbennig iawn a’r fedyddfaen bren unigryw. Dros amser, bu newidiadau a gwaith adfer. Yn 1984, rhoddwyd gwydr newydd a wnaed yng Nghanolfan Crefft Rhuthun yn y ffenestr ddwyreiniol.

Bydd copïau o Gofnodion y Plwyf yn cael eu harddangos.

Dim angen archebu.

Eglwys Sant Mihangel a’r Holl Angylion, Efenechtyd, Ll15 2PW.

Mae Efenechtyd tua dwy filltir i'r de o Ruthun; gyrru yw'r unig ffordd i'w gyrraedd. Cymerwch y B5105 allan o Ruthun i gyfeiriad Llanfwrog; gyferbyn ag Eglwys Llanfwrog trowch i'r chwith a pharhau am tua 1.5 milltir (2 km) ac fe ddowch at bentref bychan Efenechtyd. Mae'r eglwys yng nghanol y pentref.

Mae ychydig o risiau i mewn i’r eglwys.


Prisiau

Am Ddim