Mae Eglwys Uniongred Groegaidd Sain Nicolas wedi'i lleoli ar ben Stryd Bute. Fe'i hadeiladwyd yn 1906 yn yr arddull Bysantaidd, i ddarparu ar gyfer y mewnlifiad o forwyr Groegaidd a oedd yn teithio i Ddociau Caerdydd, a oedd yn ei anterth ar y pryd. Yn wir, dyma un o'r ychydig eglwysi yn y DU a adeiladwyd fel Eglwys Uniongred.
Mae gwedd fewnol yr eglwys yn hardd iawn. Mae sgrin eicon wedi'i cherfio a murluniau yn dangos golygfeydd o fywyd Crist a hefyd Sain Nicolas.
Yn ystod y diwrnod agored, bydd yr eglwys ar agor.
Llenyddiaeth ar gael.
Teithiau tywys.
Gweithgareddau i blant.
Lluniaeth.
Mae'r dyddiad hwn yn cyd-fynd â'r diwrnod agored yn Eglwys y Santes Fair, Stryd Bute, gan fod yr eglwysi wrth ymyl ei gilydd.
Cyfeiriad: St Nicholas' Greek Orthodox Church, Bute Street / Greek Church Street, Cardiff, CF10 5HA.
Cyfarwyddiadau - mae'r eglwys yn hawdd ei chyrraedd o ganol tref Caerdydd. Gellir dal Bws y Bae ger John Lewis ond mae'n hawdd cerdded yno o ganol y ddinas.
Mae rhai llefydd parcio ar gael y tu allan i'r eglwys, neu mae mesuryddion ar gael ar Stryd Bute.
Cyfeillgar i gadeiriau olwyn.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 26 Med 2026 |
11:00 - 15:00
|