Drysau Agored - Eglwys St Brothen, Llanfrothen
Saif hen eglwys Sant Brothen – sydd bellach o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill, mewn llecyn ynysig iawn.
Cafodd y safle ei ddefnyddio am y tro cyntaf gan Sant Brothen yn hwyr yn y chweched ganrif ac mae gan yr adeilad deniadol hwn o’r canoloesoedd hwyr du mewn sydd ar ychydig o osgo, to arch canoloesol i’w angori rhag y gwynt, a sgrin dderw ddarniog ag iddi naw rhan.
Mae dau fedyddfaen yn dal i fod yn yr eglwys, ac mae gan un glawr derw conigol siâp octagon sy’n dod o’r 15fed ganrif hwyr.
Mae gan yr eglwys gysylltiadau â David Lloyd George a Clough Williams-Ellis.
Bydd yr eglwys ar agor i ymwelwyr.
Cyfeiriad: St Brothen, Llanfrothen, Gwynedd, LL48 6DY.
O ffordd B4410 rhwng Garreg a Rhyd; mae’r eglwys ar lethr serth â mynediad cul; gall dod o hyd iddi fod yn anodd – mae tu ôl i ddau dŷ, ond mae llwybr yn arwain at yr eglwys.
Mae tir anwastad iawn yn y fynwent ac yn arwain ati.
Nid oes llawer o le parcio.