Siopa Nadolig yn y Nos
Bydd Castell a Chanolfan Groeso Cas-gwent yn ceisio cynnig ysbrydoliaeth ar gyfer anrhegion Nadolig yn ein digwyddiad siopa hwyr!
Bydd yna gyfle i brofi samplau am ddim, mwynhau cerddoriaeth Nadoligaidd, ynghyd â gostyngiad o 10% ar yr holl gynnyrch. Bydd aelodau Cadw hefyd yn derbyn disgownt ychwanegol yn siop anrhegion Castell Cas-gwent.