Skip to main content

Yn eistedd ar fryncyn dramatig uwchben afon droellog Conwy, mae Erddig yn adrodd stori 250 mlwydd oed am berthynas teulu bonedd â’i weision. Mae casgliad mawr o bortreadau ac ystafelloedd wedi’u cadw’n ofalus yn dal bywydau gweision ar ddechrau’r 20fed ganrif, tra bod i fyny’r grisiau yn drysorfa o ddodrefn, tecstilau a phapurau wal cain.

Y tu allan mae gardd o’r 18fed ganrif sydd wedi’i hadfer yn llawn, gyda choed ffrwythau, borderi llysieuol blynyddol afieithus, rhodfeydd o balalwyf plethedig, gwrychoedd ffurfiol, a chasgliad o eiddew sy’n bwysig yn genedlaethol.

Mae’r parc pleser 1,200 acer, a ddyluniwyd gan William Emes, yn hafan o heddwch a harddwch naturiol, sy’n ddelfrydol ar gyfer picnic ar lan yr afon. Darganfyddwch y rhaeadr ‘cwpan a soser’ silindraidd neu archwiliwch wrthgloddiau castell mwnt a beili Normanaidd.

Cyfeiriad - Erddig, Wrecsam, LL13 0YT.

Nid yw’r cod post hwn bob amser yn cael ei adnabod gan Sat Navs ac apiau llywio. Fe’ch cynghorir yn lle i ddilyn yr arwyddion brown ar ffordd yr A525 (Heol Witchurch) neu’r A483. Bydd y rhain yn eich cyfeirio i adael ar gyffordd 3 drwy Rostyllen, ac yna trowch i’r dde yn Felin Puleston ar Heol Hafod.

Parcio ar gyfer deiliaid bathodynnau glas a man gollwng. Toiledau hygyrch. Bwyty’n hygyrch drwy lifft. Llawr gwaelod y tŷ’n hygyrch. Cadeiriau olwyn ar gael i’w benthyg.

Does dim angen archebu lle.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 14 Medi 2024
10:00 - 17:00