Teithiau Castell Oxwich
Mae’r Gŵyr yn ardal ryfeddol. Bydd y rheini sy’n mwynhau treftadaeth a’r rheini sy’n mwynhau’r traeth wrth eu bodd â’r penrhyn hardd hwn.
Arferai’r cyfoethog adeiladu lle’r oedd yr olygfa orau. Dewisodd teulu Mansel lecyn hardd ar bentir coediog uwchben Bae Oxwich i adeiladu eu cartref delfrydol.
‘Des res’ go iawn — er nad yw’n gastell yng ngwir ystyr y gair — yn cynnwys y moethau diweddaraf, yn cynnwys toiledau tu mewn.
Wedi’i godi ar ffurf iard, rhoddodd Syr Rice borthdy ffug-filwrol i’w faenordy gydag arfbais y teulu wedi’i thorri mewn carreg. Aeth ei fab Edward ati i greu adain aml-lawr fwy mawreddog. Ychwanegwyd oriel hir gain – nodwedd ffasiynol yn oes Elisabeth – yn uchel, i fanteisio i’r eithaf ar y golygfeydd gwych o’r môr.
Roedd teulu Mansel yn hoff o ddangos eu cyfoeth ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r technegau adeiladu a’r ffasiynau diweddaraf. Fodd bynnag, gadawodd y teulu ar ôl rhai degawdau yn unig. Gydag Abaty Margam a Hen Gastell y Bewpyr ym Mro Morgannwg hefyd ym meddiant y teulu, roedd digon o ddewis ganddynt.
Teithiau am 11am a 2pm
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Oedolion |
£10.00
|
Aelod - Ymunwch rŵan |
£7.00
|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 18 Mai 2024 |
11:00 - 15:00
|
Sad 08 Meh 2024 |
11:00 - 15:00
|
Sad 13 Gorff 2024 |
11:00 - 15:00
|
Sad 17 Awst 2024 |
11:00 - 15:00
|
Archebwch |