Drysau Agored - Abaty Margam
Mae Eglwys Abaty Santes Fair y Forwyn ym Margam (Abaty Margam) yn adeilad rhestredig gradd I. Dyma’r unig gorff o Abaty Sistersaidd yng Nghymru sy’n dal i gael ei ddefnyddio fel eglwys, ac mae ganddo bensaernïaeth Romanésg Normanaidd odidog. Ar un adeg, dyma oedd y tŷ mynachaidd cyfoethocaf yng Nghymru. Roedd yn ganolfan i ddysg a diwylliant a oroesodd Diddymu’r Mynachlogydd diolch i nawdd gan ddau deulu, sef y Manseliaid a’r Talbotiaid.
Mae’r eglwys yn cynnwys beddrodau’r Manseliaid yn null y Dadeni, ffenestri William Morris, adnewyddiad Eingl-Gatholig y Fictoriaid, Capel Talbot gyda’i effig marmor Gothig mawreddog o Theodore Mansel Talbot, festri hanesyddol, ac organ bibell, gwaith prin gan Augustus Gern.
Taith Hanes Theatrig - Dydd Sadwrn 7 Medi am 11am. Dewch i ddarganfod hanes a drama bywyd canoloesol Abaty Margam a'i le yn hanes y Magna Carta. Dewch i weld a chlywed gan y Brenin John wrth i chi weld y ddrama a arweiniodd at Siarter Fawr 1215. Dewch i gwrdd â mynachod canoloesol sy'n siarad am eu bywydau bob dydd a darganfod yr hanes gwych hwn ar daith o amgylch y ddelfryd Sistersaidd.
Llwybrau a Chwedlau - Dydd Sul 8 Medi am 11am. Hanes trwy daith gerdded o farwolaethau a chladdedigaethau, o amgylch mynwent hanesyddol Abaty Margam. Bydd angen esgidiau cerdded cryfion; mae peth tir anwastad. Llofruddiaeth, Anhrefn, Pathos, Gwenwyn!
Does dim angen archebu lle.
Cyfeiriad – Eglwys Abaty Margam, Margam, Port Talbot SA13 2TA.
Facebook: Eglwys Abaty Margam
Cyfarwyddiadau - cyffordd 38 yr M4. Cymerwch yr allanfa i'r A48 tua'r dwyrain. Mae Eglwys Abaty Margam ar y troad cyntaf i'r chwith. Dilynwch yr arwyddion. Parcio am ddim.