Drysau Agored - Adfeilion Eglwys y Santes Fair a’r fynwent
Wedi'i lleoli ychydig ar ochr y bryn uwchben Abaty Tyndyrn, ac ychydig oddi ar lwybr pererindod canoloesol, cafodd Eglwys y Santes Fair / Llanandras, sydd bellach yn adfail rhestredig Gradd II, ei hadeiladu yn wreiddiol gan y Sistersiaid ar gyfer eu tenantiaid lleyg fel man addoli ar wahân. Mae'r adfail ar safle Celtaidd a gysegrwyd yn flaenorol i Sant Andreas neu Sant Andras. Mae ganddo rannau canoloesol, estyniadau Fictoraidd a golygfeydd hardd o bentref Tyndyrn, afon Gwy, Abaty Tyndyrn ac yn bellach i ffwrdd, Clawdd Offa. Mae'r fynwent yn ddôl o flodau gwyllt sy'n cynnwys henebion prin. Cerddwyr yn unig, dim mynediad o’r ffordd nac i'r anabl.
O seintiau Celtaidd anhysbys i Sistersiaid, ac o Feistri Haearn cyfoethog i fethdalwyr, mae gan Eglwys y Santes Fair hanes amrywiol a lliwgar. Bydd ymwelwyr yn cael taith fer o amgylch y fynwent a'r adfeilion y tu allan wrth glywed sgwrs anffurfiol ar hanes, llên gwerin a chwedlau Bryn y Capel. Rhoddir sylw arbennig i: gynlluniau Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Rhan Isaf Dyffryn Gwy i atgyfnerthu'r adfail er mwyn i bawb ei fwynhau; y ffawna a fflora yn y ddôl blodau gwyllt; a nodweddion pensaernïol a hanesion y pyramid rhestredig Gradd II, oerydd gwin, beddrodau allor Rhufeinig, beddau rhyfel a thrychineb Pwll Senghennydd.
Mae niferoedd wedi'u cyfyngu i 50 o bobl ar gyfer pob sgwrs, archebwch drwy:
Dydd Sadwrn 2.30-3pm https://www.eventbrite.co.uk/e/saturday-open-doors-ruin-of-st-marys-church-and-churchyard-tintern-tickets-1375846366519?aff=oddtdtcreator
Dydd Sul 11-11.30pm - https://www.eventbrite.co.uk/e/open-doors-ruin-of-st-marys-church-and-churchyard-tintern-tickets-1307831462109?aff=oddtdtcreator
E-bostiwch LWVBPT2023@gmail.com neu ffoniwch 01291 680139 os oes gennych ymholiadau na chafodd eu hateb gan y Cwestiynau Cyffredin.
Credyd llun i Matt Perks
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 13 Medi 2025 |
14:30 - 15:00
|
Sul 14 Medi 2025 |
11:00 - 11:30
|