Skip to main content

Mae'r digwyddiad Drysau Agored hwn yn cynnwys tri lleoliad:
Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro;
Paterchurch - tŵr caerog canoloesol;
a Choeden Ginkgo Doc Penfro (a roddwyd yn 1877 gan Togo Heihachiro, a aeth yn ei flaen i fod yn Llyngesydd amlwg yn Llynges Japan).

Bydd y digwyddiad yn cynnwys dwy daith (un yn y bore, un yn y prynhawn), a fydd yn rhoi mynediad i dŵr canoloesol caerog Paterchurch, a'r Goeden Ginko a blannwyd yn Noc Penfro yn y 19eg ganrif, fel anrheg gan gynrychiolydd o fflyd Llynges Japan. Bydd y daith yn cychwyn ac yn gorffen yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro, a fydd ar agor ac yn darparu mynediad am ddim yn ystod y dydd.

Mae'r daith gyntaf yn cychwyn am 11am, a'r ail daith am 1.30pm - yn gadael o’r Ganolfan Dreftadaeth. Bydd y teithiau’n para tua awr.

Bydd y teithiau’n cychwyn ac yn gorffen yng Nghanolfan Dreftadaeth Doc Penfro - SA72 6WS.

Mae angen archebu lle.
Dylid cyfeirio ceisiadau ac ymholiadau am archebion at:  community@pdht.org

Cyfarwyddiadau - o'r gogledd neu'r dwyrain dilynwch yr arwyddion i Ddoc Penfro. Ar Gylchfan Waterloo cymerwch yr A4139, gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer y Porthladd Fferïau. Parhewch ar yr A4139 heibio i archfarchnadoedd Tesco ac Asda. Ar ôl pasio Gât 1 Porthladd Penfro, cadwch wal yr Iard Longau ar y dde i chi nes i chi weld y rheiliau glas a mynedfa'r maes parcio ar y dde. Mae parcio am ddim ar gael ar y safle.
Ar Drên: mae trenau rheolaidd yn teithio tua'r gorllewin o Abertawe, Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod yn terfynu yn Noc Penfro.
O'r Orsaf Reilffordd, mae'r Ganolfan Dreftadaeth yn daith gerdded chwarter awr i'r gorllewin i lawr Dimond Street, Queen Street ac yna i'r de i lawr Commercial Row i giât cerddwyr y maes parcio.
Ar y Bws: mae gwasanaethau rheolaidd, gan gynnwys 349, 356 a 361, yn rhedeg o Hwlffordd, Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod, gan stopio yn Sgwâr Albion, lai na phum munud ar droed o’r Ganolfan Dreftadaeth.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 07 Medi 2024
11:00 - 15:00