Skip to main content

Cafodd y Capel, sy’n gartref i Eglwys Annibynnol Saesneg Talacharn, ei adeiladu ar ddiwedd y 19eg ganrif. 

Mae drysau ar bob ochr y cyntedd yn rhoi mynediad i’r cysegr, sydd ag ardal eistedd o faint da ac sy’n cynnwys corau pren hardd wedi’u rhannu’n adrannau gan ddwy ystlys. Mae'r ffenestri uchel yn dod â digon o olau naturiol i mewn yn ystod y dydd. Ac mae acwsteg yr adeilad yn ardderchog, felly mae'n cael ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion a chyngherddau côr. 

Mae balconi yn y cefn, ac mae’r wal gefn yn cynnwys ffenestr wydr lliw a edmygir yn fawr gan ymwelwyr. Yn y tu blaen, mae’r pulpud mewn lle canolog ar y llwyfan mawr sydd wedi’i godi, gyda’r bwrdd cymun oddi tano. 

Ar gyfer gŵyl Drysau Agored, bydd arddangosfa o eitemau am y capel, ei hanes, a’i waith ar hyn o bryd. Efallai y bydd lluniaeth ysgafn ar gael o bryd i’w gilydd drwy’r amseroedd y mae’r capel ar agor.

Ddydd Sul, 22 Medi, bydd Gwasanaeth y Cynhaeaf rhwng 2:30pm a 3:30pm (yn fras). Mae croeso i bawb ddod a bydd gweithgareddau ar gael i blant o oedran ysgol gynradd yn ystod y bregeth, dan arweiniad rhywun sydd wedi cael gwiriad DBS llawn. (Noder – ni fydd ymwelwyr yn gallu crwydro o gwmpas yn edrych ar yr arddangosfa yn ystod y gwasanaeth)

Dim angen archebu lle.

Cyfeiriad – Eglwys yr Annibynwyr Saesneg Talacharn (Y Capel), Stryd y Brenin, Talacharn, Sir Gaerfyrddin, SA33 4QE.

Mewn car – o'r dwyrain, dilynwch yr M4 i Gyffordd 49, gan ymuno â'r A48 i Gaerfyrddin. Ewch ymlaen ar yr A40 (arwyddbost Abergwaun/Sanclêr). Ewch ar yr A4066 i gyfeiriad Sanclêr. Trowch i'r dde i'r Stryd Fawr (A4066) a pharhewch dros y bont, trwy Cross Inn, i lawr i Dalacharn ac yna i fyny'r bryn i'r Capel (ar y chwith).

O'r gorllewin, dilynwch yr A40 tuag at Sanclêr. Wrth y gylchfan cymerwch yr allanfa gyntaf i Ffordd Dinbych-y-pysgod (A4066), i'r dde wrth y goleuadau traffig ar y stryd fawr (A4066), i'r dde wrth y gyffordd T nesaf (croeswch dros y ffordd ddeuol), yna ewch ymlaen dros y bont, trwy Cross Inn, fel uchod.

Gellir dod o hyd i lefydd parcio naill ai ar y stryd y tu allan neu'n bellach i lawr ym maes parcio'r Blaendraeth (sylwch, erbyn hyn mae peiriant talu ac arddangos ym maes parcio'r Blaendraeth).

Ar drafnidiaeth gyhoeddus – bws o Gaerfyrddin i Dalacharn, trwy Sanclêr (222 Taf Valley Coches). Dim Gwasanaeth ar Ddydd Sul. (Gwefan Taf Valley Coaches – edrychwch ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf).

Materion mynediad:
Mae ambell i ris bychan ar y llwybr o’r palmant i dir y Capel, a rhai yn y Capel ei hun hefyd. Gallwch gysylltu ymlaen llaw i drefnu ramp. Am ragor o wybodaeth ynghylch mynediad i'r anabl, cysylltwch â'r Parchedig Carys Butler, ar 01994 427269.
Nid yw'r balconi na'r sedd fawr yn hygyrch i bobl ag anawsterau symudedd.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 12:00