Rydym yn llyfrgell gyhoeddus gyda chasgliad astudiaethau lleol Maldwyn, Trysorau Maldwyn. Mae ein casgliad yn cynnwys papurau newydd lleol yn ôl i ddiwedd y 19eg ganrif, hen fapiau o'r ardal, llyfrau a chyhoeddiadau lleol gan gynnwys gweithiau helaeth gan grwpiau hanes lleol. Mae gan y llyfrgell hefyd fynediad arbennig i Ancestry.com a FindMyPast.co.uk ar gyfer ymchwil achyddol.
Rydym yn cynllunio diwrnod agored gyda mynediad tywysedig i bob agwedd ar ein casgliad astudiaethau lleol a hanes lleol, gan hyrwyddo’r trysorau unigryw a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y llyfrgell.
Llyfrgell Y Drenewydd, Lôn y Parc, Y Drenewydd SY16 1EJ
O gylchfan Llandrindod ar y ffordd osgoi trowch i'r dde, yna trowch yn syth i'r chwith i Stryd y Parc. Mae'r llyfrgell ar gyffordd Stryd y Parc a Lôn y Parc. Mae yna wasanaeth bws a thrên da i'r Drenewydd. Mae gan y Llyfrgell faes parcio
| Categori | Price |
|---|---|
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Maw 08 Med 2026 |
10:00 - 15:00
|