Drysau Agored - Llys Insole
Yn swatio ym maestref ddeiliog Llandaf yng Nghaerdydd mae Cwrt Insole, plasty rhestredig Gradd II* sydd â chyfoeth o hanes a rhaglen ddigwyddiadau fywiog.
Dewch i ddysgu mwy am fywydau hynod ddiddorol y rhai a fu’n gweithio y tu ôl i'r llenni ar ein taith unigryw o amgylch trigfannau’r gweision yn ein Plasty. Dysgwch am arferion dyddiol, heriau a straeon y staff domestig a chwaraeodd ran hanfodol wrth gynnal mawredd y plasty. Peidiwch ag oedi, felly! Ymunwch â ni ar ein taith o gwmpas Trigfannau’r Gweision ym mis Medi eleni fel rhan o ŵyl Drysau Agored. Dylech fod yn ymwybodol bod y daith hon yn golygu dringo sawl llawr o risiau. Defnyddiwch eich crebwyll eich hun i benderfynu a allwch chi fynd ar y daith hon.
16, 18 a 22 Medi. Teithiau yn dechrau am 11, 11.20, 11.40, 12, 12.20, 12.40
Mae lle i 5 o bobl ar bob taith. Gellir archebu lle drwy ein gwefan: https://insolecourt.org/event/llandaffopendoors2024/202409 16/ neu drwy ffonio'r Siop Anrhegion ar 029210167920
Llys Insole, Heol y Tyllgoed, Llandaf, Caerdydd, CF5 2LN
Ar droed – Mwynhewch y golygfeydd ac archwiliwch yr ardal leol fel rhan o'ch ymweliad â Llys Insole. Dim ond 1 milltir o Lwybr Taf yw'r Llys. Mae mynediad i gerddwyr ar gael o Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed (prif fynedfa), Porth y De ar Vaughan Avenue a Phorth y Dwyrain yng Ngerddi Insole.
Ar feic – y prif lwybrau beicio i Gwrt Insole yw:
O Fae Caerdydd ar Lwybr Trelái
O ganol dinas Caerdydd ar Lwybr Taf
Ewch i Cadw Caerdydd i Symud am fwy o wybodaeth am feicio yng Nghaerdydd, gan gynnwys mapiau o Lwybrau Trelái a Thaf.
Gallwch barcio eich beiciau ger y Llaethdy (maes parcio) neu o flaen y plasty.
Mewn car – mae Llys Insole oddi ar Heol y Tyllgoed yn Llandaf a cheir arwyddion yn y pentref. Mae maes parcio ar y safle ar gael ar sail y cyntaf i'r felin, gan gynnwys 3 man parcio dynodedig i bobl anabl. Fel arall, gellir parcio ar y stryd ar Heol y Tyllgoed.
- Gwiriwch Newyddion Traffig y BBC.
- Cynlluniwch eich llwybr gyda Llwybrydd RAC
Ar fws – y bysiau agosaf sy'n gweithredu rhwng canol dinas Caerdydd a Chwrt Insole yw:
66 (Bws Caerdydd). Gadewch y bws ar Heol y Tyllgoed, cerddwch yn ôl 150m i giât y Gogledd.
25, 62 neu 63 (Bws Caerdydd) a 122 neu 124 (Stagecoach). Mae’r arhosfan hon 550m o Borth y Gogledd ar Heol y Tyllgoed. Gadewch y bws ger y Llew Du yn Llandaf, cerddwch i fyny’r bryn i’r goleuadau traffig, trowch i’r chwith i Heol y Tyllgoed, a dilynwch yr arwyddion brown.
Mae Cwrt Insole tua 25 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd.
Gallwch gynllunio eich taith bws neu drên gan ddefnyddio gwefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 200 22 33.
Ar y trên – yr orsaf agosaf yw’r Tyllgoed. Mae Cwrt Insole 500m o allanfa Heol y Tyllgoed. Mae gwasanaethau’n cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru ar Linell y Ddinas sy’n rhedeg o Coryton i Radyr trwy ganol y ddinas (ac i’r gwrthwyneb).