Skip to main content
Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw. Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw Redirecting to https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/dod-o-hyd-i-ddigwyddiad-cadw.

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Abercamlais yw’r mwyaf gorllewinol o’r ddau blasty mewn parcdir i’r gogledd o’r A40 rhwng Pontsenni ac Aberhonddu, ychydig o fewn ffin ogleddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae’n adeilad rhestredig Gradd I ysblennydd, yn dyddio o’r Oesoedd Canol yn wreiddiol, ond fe’i trawsnewidiwyd yn helaeth ar ddechrau’r 18fed ganrif a gwnaed ychwanegiadau yn oes Fictoria.

Mae wedi’i leoli mewn tiroedd helaeth, wedi’i gysgodi rhag y gwyntoedd gan goed ffawydd a derw aeddfed. Gerllaw, ceir colomendy sy’n gwasanaethu fel pont dros nant Camlais sy’n llifo i mewn i afon Wysg.

Ar gyfer gŵyl Drysau Agored, bydd y tŷ a’r gerddi ar agor i’r cyhoedd, gyda theithiau wedi’u trefnu gan aelodau o’r teulu. Bydd teithiau'n cael eu trefnu bob hanner awr, gan ddechrau am hanner dydd, a bydd y daith olaf yn dechrau am 2.30pm. Bydd y teithiau'n para tua 1.5 awr.

Cyfeiriad – Tŷ Abercamlais, Aberhonddu, Powys, LD3 8EY.

Lleoliad – Mae Tŷ Abercamlais ar yr A40, 5 milltir y tu allan i Aberhonddu. Mae safle bws o'r enw Abercamlais Lodge ar ben y ffordd ar yr A40.

Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn.


Prisiau

Am Ddim