Mae'r adeilad tri llawr hwn o'r 17eg ganrif yn cynnwys dau adeilad ar wahân gyda chwrt cefn sy’n cynnwys cyn-stordŷ cerbydau. Fe’i hadwaenwyd fel y Bull Hotel ers 1830au, ac mae’r enwau blaenorol yn cynnwys y Black Bull a’r Guild Hall Tavern (enw sydd bellach wedi’i ailfabwysiadu). Yn ystod y gwarchae ar Gastell Dinbych, (yn ystod y Rhyfel Cartref) credir mai dyma bencadlys y cadfridog. Mae grisiau cilfach cain (C17) yn codi uchder llawn i lawr yr atig, ac mae'r menig cerfiedig sydd i’w gweld ar bob un o'r pyst grisiau yn ein hatgoffa bod Dinbych yn ganolfan flaenllaw yn y fasnach fenig yn y G16 a'r G17.
Bydd Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2026 yn cael ei lansio ddydd Gwener 18 Medi 2026 gyda thaith hunan-yrru o amgylch y fro, ac yna darlith gyda'r nos yn Theatr Twm o'r Nant, "Adfer ac ail-leoli Melin Brwcws ar gyfer y dyfodol". Dros y ddau ddiwrnod canlynol, dydd Sadwrn 19 a dydd Sul 20 Medi 2026, bydd tri deg o safleoedd hanesyddol pwysig yn yr ardal ar agor i'r cyhoedd. Bydd gweithdai i blant, teithiau tywys a sioe ryngweithiol hefyd yn cael eu cynnal. Bydd gwasanaeth archebu digwyddiadau gyda lleoedd cyfyngedig ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn nes at y penwythnos. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn www.darganfoddinbych.cymru a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire
Does dim angen archebu lle.
Hall Square, Dinbych, LL16 3NU.
///What3Words:
(Eng) ///node.relatives.stilted
(Cym) ///argraffydd.golygus.garddwr
| Dyddiad | Amseroedd |
|---|---|
| Sad 19 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|
| Sul 20 Med 2026 |
10:00 - 17:00
|