Skip to main content

Mae’r digwyddiad Drysau Agored hwn yn cyfeirio at dri lleoliad gwahanol – Eglwys San Pedr, Eglwys Sant Andras, Eglwys Sant Mihangel. Mae gan bob lleoliad ei gofnod ei hun ar dudalennau Drysau Agored Cadw, felly cyfeiriwch at bob cofnod ar wahân am ei leoliad ar fap ac ati.

Mae Eglwys Sant Andras yn eglwys ganoloesol gradd ll*, gyda mynwent o'i chwmpas yn cynnwys croes bregethu ac elordy rhestredig, ac ywen hynafol.
Mae Eglwys Sant Mihangel yn eglwys ganoloesol gradd l gyda mynwent o'i chwmpas, a chanddi seddau bocs a phulpud trillawr.
Mae San Pedr yn Gapel Anwes gradd ll ar gyfer Sant Andras, mewn gerddi helaeth. Capel Celf a Chrefft hwyr ydyw, a adeiladwyd yn 1930 ac a ddyluniwyd gan John Coates Carter.

Ar gyfer Drysau Agored, bydd: gweithgareddau i blant ym mynwent eglwys Sant Andras; cofrestri plwyf a mynediad digidol yn San Pedr a San Mihangel ar gyfer ymchwil hanes teulu. Mae cofrestri San Pedr yn cynnwys Sant Andras; San Pedr - te hufen a cheir clasurol.
Bydd pob eglwys yn cael ei haddurno ar gyfer y Cynhaeaf a bydd Swper Cynhaeaf ar y nos Wener.
Bydd taith gerdded i’r tair eglwys, yn dechrau yn San Pedr, yn cael ei harwain gan dywysydd cerdded lleol.
Bydd teithiau tywys o amgylch San Pedr a Sant Andras yn cael eu harwain gan hanesydd lleol.

Sylwch - bydd San Pedr a Sant Andras yn agor ddydd Sul 22 Medi ar ôl gwasanaethau'r bore.

Does dim angen archebu.

Sant Andras, Saint Andras, Dinas Powys, CF64 4HD.
Eglwys San Mihangel, Llanfihangel-y-pwll, Dinas Powys, CF64 4HE.
Eglwys San Pedr, Heol y Felin, Dinas Powys, CF64 4BT.

Cyfarwyddiadau - gan ddechrau yn San Pedr mae modd cerdded i'r tair eglwys.
Nid oes trafnidiaeth gyhoeddus i San Mihangel na Sant Andras. Mae trenau’n rhedeg i orsaf Dinas Powys bob 15 munud o Gaerdydd Canolog a phob awr o Ben-y-bont ar Ogwr.
Ar y ffordd i Ddinas Powys: o gyffordd 33 yr M4, cymerwch yr A4232. Arhoswch ar y ffordd hon tan y drydedd ffordd ymadael (tua 10km/6.2 milltir) wedi'i harwyddo i’r Stadiwm Athletau a Pharc Ninian. Yna trowch i'r dde (y ffordd ymadael olaf) am Ddinas Powys.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
11:00 - 16:00
Sul 22 Medi 2024
11:00 - 16:00