Skip to main content

Porthdy deulawr carreg o ddiwedd y 13eg ganrif yw Porth Burgess. Hon oedd y brif fynedfa i dref ganoloesol Dinbych. Cafodd ei adeiladu ar yr un pryd â’r castell ac mae’n bosibl iddo gael ei ddylunio gan y prif saer maen, James of St George, pensaer milwrol blaenllaw. O boptu'r fynedfa gerbydol gromennog mae tŵr crwn deuol, sy'n codi o waelodion hirsgwar gyda sbyrnau pyramidaidd. Amddiffynnwyd y cyntedd mewnol yn wreiddiol gan ffos, gyda phont – porthcwlis – yn ei chroesi, a set o dyllau llofruddio yn y gladdgell. Uwchben y giât mae dwy siambr ar y llawr cyntaf, gydag un ffenestr ac iddi ben trionglog ac addurn gwaith siecr yn y blaen.

Mae Penwythnos Drysau Agored Dinbych 2024 yn lansio ar ddydd Gwener 20 Medi 2024 gyda darlith nos mewn daeareg yn Theatr Twm o'r Nant. Dros y ddau ddiwrnod sy’n dilyn, dydd Sadwrn a dydd Sul 21 a 22 Medi 2024 o 10am tan 5pm, bydd tua deg ar hugain o safleoedd hanesyddol bwysig lleol ar agor i'r cyhoedd, yn ogystal â gweithdai plant a theithiau tywys. Bydd gwasanaeth archebu ar gyfer y safleoedd/ gweithdai a'r teithiau tywys, yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd, ar gael drwy Lyfrgell Dinbych, yn agosach at ddechrau'r penwythnos.

Gellir cael gwybodaeth bellach ar http://www.visitdenbigh.co.uk/cymraeg/, https://twitter.com/OpenDoors_D

 a https://www.facebook.com/opendoorsdenbighshire/

LL16 3NH. Lleolwr eiddo What3Words: deploying.mediate.orders neu ynysu.llyffant.rhethrego

O'r Stryd Fawr yng Nghanol Tref Dinbych ewch am daith gerdded 100m i fyny i gyfeiriad y Castell.

Angen mynd ato ar droed; parcio am ddim ar gael yn y dref.


Prisiau

Am Ddim

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 21 Medi 2024
10:00 - 17:00
Sul 22 Medi 2024
10:00 - 17:00