Skip to main content

 Profiad sonig pwerus o ymgolli mewn disgwyliad a newidiol.

Gan Mark Anderson. Wedi’i greu ar y cyd â Liam Walsh. Cydweithredwyr creadigol Blaenafon - Grug Muse a Marega Palser.

Noddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Oxford Contemporary Music. 

“Gwaith hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd” 

Aeold o’r gynulleidfa 

Wrth i’r dydd droi’n nos, byddwch yn ymgolli mewn byd sain hudolus a pherfformiad byw yn yr awyr agored sy’n newid drwy’r amser. 

Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ mecanyddol trawiadol – gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol – mae Warning Notes yn creu seinwedd gyfoethog a phwerus sy’n rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol presennol sy’n atseinio ledled ein byd. 

Mae'r sioe hypnotig, a chwareus ar adegau sy'n addas i bob oed, yn cael ei chreu gan yr Artistiaid Mark Anderson a Liam Walsh, gyda'r cydweithredwyr creadigol deinamig Grug Muse (Bardd a pherfformiwr iaith Gymraeg) a Marega Palser (Dawnsiwr). Cynhelir y sioe yn y Gwaith Haearn Blaenafon eiconig a adeiladodd y byd diwydiannol rydym bellach yn medi'r anfanteision o newid yn yr hinsawdd ac anghyfiawnder cymdeithasol eithafol yn ei sgil. Mae 'Warning Notes' ym Mlaenafon yn ein gwahodd ni i deimlo, gwrando a myfyrio ar ein straeon personol a byd-eang - o'r gorffennol a'r presennol – a'n dyfodol gyda'n gilydd.

“Mae Anderson wedi treulio ei yrfa broffesiynol yn creu alcemi clywedol sy’n defnyddio golau, gwres, dirgryniadau, trydan, cemegau osgiliadol a pharaffernalia sy’n disgleirio yn ein llygaid ac yn ysgwyd ein dychymyg.” 

Richard Wilson

“Mae cymaint o bethau a ddylai fod yn achosi braw: rhyfel, newid yn yr hinsawdd, anghydraddoldeb, anghyfiawnder cymdeithasol, sefyllfaoedd personol ac yma mae’n cael llais, galwad clir, o sibrwd i ruo. Ar adegau, cymysgedd cyfnewidiol o egni a sain, ar adegau eraill mae’n dawelwch myfyriol y mae pob un ohonom yn chwilio amdano” 

Mark Anderson.

Archebwch eich tocynnau ar-lein ymlaen llaw (ni ellir ad-dalu tocynnau a brynwyd).

Archebwch docyn i bob aelod o’ch parti. Digwyddiad addas i’r holl deulu. 

Sylwch fod tocynnau ar gael ar-lein yn unig. Ni fydd tocynnau ar gael wrth y drws.

Mae Gwaith Haearn Blaenafon yn safle treftadaeth ddiwydiannol ac mae’r digwyddiad yn agored i’r elfennau. Gwisgwch eisgidiau call, a dillad i’w defnyddio yn yr awyr agored.

Drysau ar agor: 6.00pm 

Sioe Gyntaf: 6.30pm 

Ail Sioe: 7.30pm 

Trydydd Sioe: 8.30pm

Darperir parcio am ddim yn Gwaith Haearn Blaenafon. Dilynwch yr arwyddion i’r safle a dilynwch gyfarwyddiadau ein stiward. Côd post SAT NAV: NP4 9R

Hygyrchedd:

Mae Warning Notes wedi cael ei chreu i fod yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, gyda chymysgedd o seddi ar gael. 

Perfformiadau hamddenol – bydd y sioe gyntaf ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn berfformiad ‘hamddenol’ i'r rhai hynny sy'n dymuno profi fersiwn ysgafnach, tawelach a mwy helaeth o'r sioe yn ystod oriau golau dydd.

Taith Gyffwrdd – mae taith gyffwrdd ar gael i’r rhai sy’n rhannol neu’n gwbl Ddall neu Fyddar. Mae'r daith hon ar gael ar gais - cysylltwch â Rosie Strang, Cynhyrchydd, i archebu – rosiestrang@googlemail.com, 07966 071073.

Mwy o wybodaeth am Warning Notes yma: - https://mark-anderson.uk/projects/warning-notes


Prisiau

Tocynnau
Categori Price
Oedolyn
£5.00
Plant
£3.00
Consesiynau
£4.00

Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Gwen 20 Medi 2024
18:30 - 19:30
19:30 - 20:30
20:30 - 21:30
Sad 21 Medi 2024
18:30 - 19:30
19:30 - 20:30
20:30 - 21:30
Archebwch
I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Gwaith Haearn Blaenafon