Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Mae Neuadd y Farchnad wedi bod wrth wraidd canol tref a bywyd cymunedol Caergybi ers blynyddoedd. Comisiynwyd yr adeilad rhestredig Gradd II ar gyfer masnachwyr lleol gan y tirfeddiannwr William Owen Stanley. Wedi’i hadeiladu yn 1855 mae Neuadd y Farchnad wedi’i defnyddio ar gyfer llawer o wahanol bethau dros y blynyddoedd, yn farchnad, llyfrgell peirianyddion, cynnal sesiynau Llys, barics milwrol a lleoliad diddanwch fel lleoliad bocsio a wreslo cyn bod yn lle gwerthu dodrefn a siop ffrwythau cyn cau ei giatiau yn y flwyddyn 2000.  

Gyda chyllid gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd, arweiniodd y Cyngor Sir y prosiect o achub yr adeilad rhag disgyn, sicrhau perchnogaeth yn dilyn Gorchymyn Prynu Gorfodol yn 2015 a hwyluso cynlluniau ar gyfer ei adnewyddu gan roi Neuadd y Farchnad wrth wraidd y gymuned unwaith eto.

Yn dilyn naw mlynedd o drafod, datblygu cynigion, sicrhau cyllid a chynllunio’r gwaith o adnewyddu Neuadd y Farchnad, cychwynnwyd ar y gwaith ddechrau 2016 wrth i’r giatiau haearn gwreiddiol gael eu hadnewyddu. Agorodd yr adeilad ei ddrysau unwaith eto i’r cyhoedd ar 2 Medi 2019 i Lyfrgell Caergybi sydd hefyd yn cynnwys canolfan hanes lleol, ystafelloedd cyfarfod ac ardal fasnachol a siop goffi sydd ar gael i’w rhentu gyda chynigion ar gyfer gwaith dehongli sylweddol wrth ddatblygu.  

Teithiau tywys o amgylch adeilad newydd Neuadd y Farchnad. Uchafswm o 20 o bobl ym mhob grŵp. Mae’n hanfodol eich bod yn cysylltu i gadw eich lle drwy anfon neges at neuaddyfarchnad@ynysmon.gov.uk  neu ffonio 01248 752407. Dechrau am 12yh. Pum taith dywys 45 munud, yn dechrau am 1yh, 2yh, 3yh a 4yh gyda’r daith olaf am 5yh.

Cyfeiriad: Neuadd y Farchnad, Stryd Stanley, Caergybi LL65 1HH gan ddefnyddio’r brif fynedfa yn unig.

Mae Neuadd y Farchnad yn hygyrch i bawb gyda ramp mynediad ger y drws ffrynt, lifft a ramp tu mewn i’r adeilad, toiledau i’r anabl a chyfleuster ‘changing places’


Prisiau

Am Ddim