Skip to main content

Y flwyddyn yw 1416, ac mae Dynion Rhydd Gwent wedi dychwelyd o Ffrainc lle buont yn ymladd yn llwyddiannus dan faner Brenin Harri V yn Agincourt y flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, teimlant yr angen i wneud iawn am eu pechodau er mwyn achub eu hunain rhag dialedd enbyd, a pha le gwell i gyflawni hyn nag yn Llys yr Esgob Tyddewi. 

Dewch i gwrdd â'r dynion arfog ffyrnig hyn a'u teuluoedd yng nghynesrwydd eu gwersyll ger eu cartrefi yng Nghymru, a dysgu am eu ffordd o fyw ac addoli.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 24 Awst 2024
10:00 - 16:00
Sul 25 Awst 2024
10:00 - 16:00
Llun 26 Awst 2024
10:00 - 16:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.90
Teulu*
£18.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.70

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Llys yr Esgob Tyddewi