Skip to main content

Mae lefelau uchaf Castell Coch wedi cael eu hailadeiladu yn null oes Fictoria, ond mae'r lefelau isaf a'r sylfeini yn rhai Canoloesol. Cyn i'r gwaith ail-adeiladu hwn gael ei gynnal, cynhaliwyd cyfres o gloddiadau archaeloegol gan G.T.Clark, y cyhoeddwyd ei waith yn 1850.

Ymunwch â ni i ail-greu'r gwaith cloddio oes Fictoria a gynhaliwyd yma yn ystod y 1800au. Torchwch eich llewys a dewch o hyd i drysorau amrywiol o'r Oesoedd Canol, ceisiwch ddyfalu beth sydd gennych yn eich llaw! Dysgwch sut i gofnodi'r eitemau hyn yn eu cyd-destun archaeolegol a rhowch gynnig ar y dulliau hyn sy'n dal i gael eu defnyddio hyd heddiw.

Teithiau o amgylch y castell.

Mae angen tocyn ar gyfer holl ddigwyddiadau Castell Coch; mae hyn oherwydd y nifer cyfyngedig o ymwelwyr y gallwn eu lletya yn y castell.

Dewiswch Archebu Tocynnau i brynu tocynnau mynediad cyffredinol ar gyfer Castell Coch neu i archebu tocynnau aelod am ddim.

Archebu Tocynnau


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 27 Gorff 2024
11:00 - 15:30
Sul 28 Gorff 2024
11:00 - 15:30
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

 

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Castell Coch