Gorffwyso yn yr Abaty yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnod – 1471
Mae saethyddion sy’n cael eu talu i ymladd yn gwersylla yn yr abaty gyda’u teuluoedd! Pam maen nhw yno? Sut maen nhw’n goroesi yn ystod y cyfnod cythryblus hwn?
1471. Mae criw o saethyddion a’u teuluoedd yn gorffwyso yn yr abaty er mwyn talu gwrogaeth i William Herbert, Iarll Penfro. Maen nhw’n gwersylla yn yr abaty ac yn dal i ymarfer eu sgiliau dinesig — fel pluo, nyddu, lliwio neu lifo defnydd, coginio, trin lledr a phlethu brwyn, heb son am fwynhau ym Mhabell y Dafarn wrth gwrs. Mae un yn gallu ysgrifennu hyd yn oed!
Dyma eich cyfle i weld y gweithgareddau’n agos, ac efallai cael cyfle i chwarae gêm dis a bwrdd canoloesol, neu i wneud gwaith brêd (braid). Gwyliwch y cogyddion yn paratoi pryd i’r criw, neu holwch y gwneuthurwr saethau am eu sgiliau nhw hefyd.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 04 Mai 2024 |
10:00 - 16:00
|
Sul 05 Mai 2024 |
10:00 - 16:00
|
Llun 06 Mai 2024 |
10:00 - 16:00
|
Sad 17 Awst 2024 |
10:00 - 16:00
|
Sul 18 Awst 2024 |
10:00 - 16:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£8.55
|
Teulu* |
£27.36
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£6.03
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.92
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). O ddydd Llun 8 Ebrill, bydd y prisiau a ddangosir yn cynnwys gostyngiad o 10%. Bydd sgaffaldiau yn cael eu gosod o amgylch yr eglwys Gothig yn Abaty Tyndyrn o ddydd Llun 8 Ebrill i’n galluogi i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y tywodfaen ar waliau uchaf yr eglwys, gan eu bod yn hindreuliedig ac yn malurio. Rydym yn gwneud hyn er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau ymweld â’r safle gogoneddus hwn. |