Dawnsio i Amser!
Mae dawnsio o hyd wedi bod yn ffordd inni fynegi a mwynhau ein hunain, ond 500 mlynedd yn ôl roedd dawnsfeydd yn amrywio o Branle’r werin i Gavotte aelodau’r llys. Mae’r rhain yn dra gwahanol i’r rymba neu’r walts a welwch heddiw…
Rydym yn croesawu dychweliad cwmni The Renaissance Footnotes i’ch dysgu a’ch diddanu; byddwch yn dysgu am ddefodau, bwydydd a cherddoriaeth y 15fed a’r 17fed ganrif, ac fe’ch gwahoddir i weld, ac efallai ymuno â rhai o’r dawnsfeydd mwyaf poblogaidd wrth i chi gael cipolwg ar yr hyn y gellir ei alw’n “Strictly’r Cyfnod”!
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Gorff 2024 |
10:30 - 16:30
|
Sul 28 Gorff 2024 |
10:30 - 16:30
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.50
|
Teulu* |
£30.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£6.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.80
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |