Skip to main content

Bydd y ddeuawd gerddorol, Pease Pottage, yn Nhretŵr y penwythnos hwn, felly dewch draw i’w clywed nhw’n chwarae cerddoriaeth o’r 15fed ganrif!

Mwynhewch synau dawnsfeydd a melodïau poblogaidd o gyfnod pan oedd y tŷ yn ei anterth. Bydd cerddoriaeth yn llenwi’r lle hardd hwn unwaith yn rhagor.

Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 25 Mai 2024
10:30 - 16:30
Sul 26 Mai 2024
10:30 - 16:30
Llun 27 Mai 2024
10:30 - 16:30
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Llys a Chastell Tretŵr