Straeon a chaneuon i ddysgwyr Cymraeg
Sesiynau byr, hwyliog o ganeuon a straeon yn y castell, wedi’u hysbrydoli gan ei llên gwerin a’i hanes.
Ymunwch â storïwyr arobryn am ddeuddydd o straeon a chaneuon; cewch hwyl a chyfle i ddysgu rhai caneuon, rhigymau ac ymadroddion Cymraeg!
Dewch i brofi diwylliant rhyfeddol Cymru drwy’r traddodiad llafar, yn y ddwy iaith yng Nghymru.
Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at wahanol lefelau o brofiad gyda Chymraeg (gan gynnwys dim!) ac fe’i cynhelir drwy gydol y dydd gan ddechrau am 11am a’r sesiwn olaf am 3pm. Bydd pob sesiwn tua 20 munud o hyd.
Does dim angen i chi ragarchebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Iau 17 Awst 2023 |
11:00 - 16:00
|
Gwen 18 Awst 2023 |
11:00 - 16:00
|
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£8.70
|
Teulu* |
£28.20
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£6.10
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.10
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd |