Skip to main content

Does dim angen i chi adael un o aelodau pwysicaf y teulu adref pan fyddwch chi’n  mentro ar eich antur nesaf. Mae gennym ni gestyll, abatai a thai anhygoel y gallwch ymweld â nhw gyda digonedd o le i bawb fwynhau ychydig o ymlacio wedi teithio.

Cŵn mewn safleoedd Cadw/Dogs at Cadw Sites

Beth am gymryd cipolwg ar ein safleoedd sy’n gyfeillgar i gŵn o’r rhestr isod? Os byddwch angen mwy o wybodaeth am y cyfleusterau yn ein safleoedd yna cysylltwch â’n ceidwaid yn uniongyrchol i dderbyn gwybodaeth benodol ar gyfer safle hwnnw.

Cofiwch:

Er mwyn sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn cael diwrnod allan gwych, cadwch bob ffrind pedair coes dan reolaeth ac ar dennyn byr bob amser; glanhewch ar ôl eich anifail anwes a mwynhewch fynediad i’r lloriau gwaelod yn unig.

Byddwch yn ymwybodol, er mwyn diogelwch, mae gan staff y safle y disgresiwn i wrthod mynediad i gŵn nad ydyn nhw o dan reolaeth neu ar dennyn.

Mae manylion cyswllt a gwybodaeth bellach am ymweld â safle sy’n gyfeillgar i gŵn i’w weld ar ein tudalennau sy’n rhestru’r henebion. Ewch i’r Adran Ymweliadau i weld y manylion llawn.

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw 
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage 
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn