Skip to main content

Pa le gwell i ddianc rhag pryderon bob  dydd na dau o safleoedd hanesyddol hyfrytaf Cymru?

Gadewch i’n hathro ymwybyddiaeth ofalgar ddwyieithog eich cynorthwyo i adael straen bywyd bob dydd a’ch tywys i gyflwr o ymlacio pur. Gallwch ddewis dadflino dan fwâu tawel Abaty Tyndyrn, neu yng Nghastell Cricieth wrth fwynhau golygfeydd hyfryd dros ddyfroedd Bae Ceredigion a chael cyfle i orffwys ac adfywio rhywfaint.     

Ymwybyddiaeth Cricieth

Dydd Sadwrn 01 Mehefin a Dydd Sul 02 Mehefin: 10am–12:45pm

Sesiwn 1: 10.00am–10:30pm

Sesiwn 2: 10:45am–11:15pm

Sesiwn 3: 11:30pm–12.00pm

Sesiwn 4: 12:15pm–12:45pm

 

Tawelwch Tyndyrn

Dydd Sadwrn, 15 Mehefin a Dydd Sul, 16 Mehefin: 10am-12:45pm

Sesiwn 1: 10.00am–10:30pm

Sesiwn 2: 10:45am–11:15pm

Sesiwn 3: 11:30pm–12.00pm

Sesiwn 4: 12:15pm–12:45pm

 

Mae’r digwyddiadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim ar sail y cyntaf i’r felin. Nid oes angen archebu tocynnau.