Rydyn ni a Thrafnidiaeth Cymru wedi dechrau cydweithio i gynnig — 2 docyn trên am bris 1 tocyn mynediad i’n safleoedd wedi’u staffio i’r sawl sy’n teithio i safleoedd Cadw ar drên — gan gefnogi pobl sy’n teithio i’n safleoedd yn gynaliadwy.
Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dangos eich tocyn trên dilys pan fyddwch yn cyrraedd y safle a chewch y tocyn rhataf am ddim.
Telerau ac amodau
- cymhwysedd: Mae'r Cynnig yn agored i bob oedolyn 18 oed neu hŷn
- mae'r cynnig ar gael i unrhyw un sydd â thocyn trên dilys ar gyfer taith berthnasol i ymweld ag unrhyw un o'r safleoedd Cadw sydd wedi’u staffio ac sydd ar y rhestr.
- rhaid i'r tocyn trên fod yn ddilys ar gyfer y diwrnod hwnnw. Gall hyn gynnwys tocynnau tymor dilys, tocynnau dwyffordd, tocynnau dwyffordd agored, tocynnau wythnosol, tocynnau crwydro, carnet/multiflex a thocynnau y tu allan i'r cyfnod brig. Bydd tocynnau ar ffonau symudol a derbynebau hefyd yn cael eu derbyn.
- bydd tocynnau ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn rhai Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cael eu derbyn, ond nid yw'r cynnig yn cynnwys rheilffyrdd treftadaeth na hamdden.
- Gyda thocyn trên dilys, caiff un person fynediad am ddim i'r safle Cadw dan sylw pan ddônt gyda pherson arall sy'n talu am fynediad. Rhaid cyflwyno'r tocyn trên dilys wrth dalu am fynediad i’r safle Cadw.
- nid yw'r cynnig arbennig hwn yn berthnasol os mai ond un person sy’n ymweld â’r safle Cadw. Ar gyfer grwpiau o fwy na dau berson, bydd angen rhagor o docynnau trên dilys, un i bob dau berson sydd am fanteisio ar y cynnig 2 am bris 1 hwn. Rhoddir mynediad i safleoedd Cadw gyda’r cynnig tocyn trên arbennig yn ôl disgresiwn llwyr staff Cadw. Ni fydd Trafnidiaeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb os na chewch fynediad i safle Cadw.
- mae telerau ac amodau arferol Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cyfnewid, amnewid neu ad-dalu tocynnau trên yn aros yr un fath. Ni fydd ad-daliadau yn cael eu gwneud o ganlyniad i fethu ag elwa o'r cynnig hwn gan Cadw.
ddim yn ddilys ar y cyd ag unrhyw gynnig arall.
Hyrwyddwr:
Cadw, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ
Mae’r Cynnig yn berthnasol i’r safleoedd Cadw canlynol:
- Abaty Tyndyrn
- Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion
- Castell Biwmares
- Castell Caerffili
- Castell Caernarfon
- Castell Cas-gwent
- Castell Coch
- Castell Conwy
- Castell Cricieth
- Castell Cydweli
- Castell Dinbych
- Castell Harlech
- Castell Rhaglan
- Castell Rhuddlan
- Castell Talacharn
- Gwaith Haearn Blaenafon
- Llys a Chastell Tretwr
- Llys yr Esgob Tyddewi
- Plas Mawr, Ty Trefol o oes Elisabeth
*Nid yw’r safleoedd canlynol a reolir ar y cyd yn gynwysedig:
Castell Carreg Cennen, Amgueddfa Cerrig Margam a Chastell Weble.